ynghylch

Ym mis Hydref 2016 bu Lis ar daith i astudio Fukushima, taith a drefnwyd gan Groes Werdd y Swisdir, sef corff amgylcheddol rhyngwladol a sefydlwyd gan Mikhail Gorbachev. Mae ‘20 milisievert y flwyddyn’ yn arddangosfa o’i ffotograffiau a’i sylwadau.

Ym mis Mawrth 2011 bu daeargryn a tsunami a symbylodd drychineb niwclear ym mhwerdy niwclear Fukushima Daiichi yn Siapan. O ganlyniad lledaenodd ymbelydredd niwclear a lygrodd o leiaf 8% o arwynebedd daear Siapan a bu’n rhaid i 164,865 o bobl adael eu cartrefi.

Wedi chwe mlynedd, erys y llanast aml-wynebog, ar waethaf ymdrechion adfer a chostau cynyddol. Yn ogystal a’r argyfyngau sydd heb eu datrys ym mhwerdy niwclear Daiichi ei hunan, mae ardaloedd trefol a gwledig yn dal wedi eu llygru yn enbyd, a gwelir canlyniadau corfforol, seicolegol, cymdeithasol ac economaidd difrifol yn datblygu i lawer o bobl.

Mae teitl yr arddangosfa ‘20 milisievert y flwyddyn’ yn cyfeirio at yr uchafswm o ymbelydredd sy’n deillio o bwerdy niwclear y gall trigolion Fukushima ei dderbyn o fewn un flwyddyn.

Yng ngweddill Siapan a gweddill y byd y lefel uchaf o ymbelydredd analwedigaethol y goddefir i ddinasydion ei dderbyn yw 1 milisievert, fel yr argymhellir gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Warchod Rhag Ymbelydredd.

Mae codi’r uchafswm blynyddol i 20 milisievert fel hyn yn gosod pwysau aruthrol ar lawer o‘r rhai a adawodd eu cartrefi, dan orfodaeth yn ogystal ag yn ‘wirfoddol’, i ddychwelyd i fyw i ardaloedd sy’n dal yn llygredig, gan fod y cymorth ariannol a dderbyniant i fyw yn rhywle arall wedi dod i ben ym mis Mawrth 2017.

Mae llawer yn gandryll oherwydd y golled o gymorth ariannol. ‘Dydyn nhw ddim eisiau derbyn y perygl uwch i’w hiechyd, na’r perygl uwch i iechyd eu plant, sy’n llawer mwy sensitif i effeithiau ymbelydredd ionaidd. Mae’n nhw’n teimlo eu bod wedi cael eu bradychu gan y llywodraeth yn ogystal a’r nifer mawr yn y cyfryngau a’r cymunedau gwyddonol a meddygol sy’n bychanu’r peryglon ac yn cefnogi’r polisi o godi’r uchafswm dinoethiad i ymbelydredd i  20 milisievert y flwyddyn. Ystyrir gan lawer o bobl yn Siapan a thu hwnt fod hyn yn bylchu eu hawliau dynol yn ddifrifol.

Mae’r sylwadau yn yr arddangosfa yn cynnwys datganiadau gan rai o’r bobl yma, a gyfarfu Lis yn ystod ei thaith, sy’n datguddio rhai o’r ffyrdd y mae nhw’n ymateb i’r drychineb.

Cyfieithiadau Cymraeg gan Dylan Morgan a Rob Davies